P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Iraj Irfan ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod  Mehefin 2017, ar ôl casglu cyfanswm o 2,231 llofnod - 2,209 o lofnodion ar-lein, a 22 o lofnodion ar bapur mewn deiseb amgen.

Geiriad y ddeiseb

​​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau crefyddol yn ysgolion gwladol Cymru fel rhai ‘optio allan’ ac ‘‘o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu’n bennaf’’, gan ystyried ffyrdd o sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i bobl sydd o grefydd wahanol a’r rhai sydd heb grefydd o gwbl.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru